Cyfleoedd arddangos yn yr Almaen 2026
edrychwch am fanylion drwy e-bost cyn bo hir
Agor
Yn arbrofol ei natur, gan adeiladu ar rannu agored a deialog, mae Agor yn anelu at ddatblygu perthnasoedd cydweithredol rhwng artistiaid yn yr Almaen a Chymru. Bydd yr artistiaid yn cyfarfod, ar-lein ac yn y cnawd, i rannu eu pryderon a'u harferion, gan annog canlyniadau ar y cyd ac annibynnol i esblygu.